Sut allwn ni leihau gwastraff yn y dosbarth?
- Edrychwch ar gynnwys bin sbwriel eich dosbarth.
- Pa ddefnyddiau sydd ynddo? Pam mae’r rhain yn y bin?
- Faint o bob defnydd sydd yn y bin?
- Rhannwch eich syniadau a’u defnyddio i gwblhau’r tabl.
Cynlluniwch ymgyrch i leihau gwastraff dosbarth yn eich ysgol.
Sut y byddwch yn mesur gwastraff pob dosbarth? Pam ei fesur fel hyn?
Sut fyddwch chi'n dangos y data hwn? Pam?
Sut y byddwch yn defnyddio'r data hwn i berswadio pob dosbarth i leihau gwastraff? Pam ydych chi'n meddwl y bydd hyn yn gweithio?
Pa dargedau y byddwch yn eu gosod i bob dosbarth? Pam?
Cynhaliwch eich ymgyrch.
Sut y byddwch yn monitro gwastraff yn yr ystafell ddosbarth yn ystod yr ymgyrch? Pam?
Pa mor aml y byddwch yn mesur gwastraff yn yr ystafell ddosbarth? Pam?
Sut fyddwch chi'n defnyddio'r mesuriadau hyn? Pam eu defnyddio fel hyn?
Sut y byddwch yn barnu llwyddiant eich ymgyrch?
Sut byddwch yn gwybod pa effaith y mae eich ymgyrch wedi ei gael?