Sut y gallwn ni leihau gwastraff yn yr ysgol?
- Rhagfynegwch pa wastraff sydd yna ar ôl cinio ysgol.
- Beth, yn eich barn chi, yw'r prif wastraff o ginio ysgol? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Cynlluniwch adolygiad o giniawau ysgol ac adrodd ar eich canfyddiadau. Dylech chi gynnwys argymhellion o sut y gellid lleihau gwastraff.
Ystyriwch y canlynol:
- Sut y byddwch yn mesur faint o fwyd sy’n cael ei wastraffu? Pam ei fesur fel hyn?
- Beth fyddwch chi'n ei wneud â'r wybodaeth hon? Pam?
- Pwy fyddwch yn eu cyfweld i gasglu barn am sut i leihau gwastraff? Pam cyfweld y bobl hyn?
- Sut fyddwch chi'n penderfynu pa syniadau yw'r gorau? Pam penderfynu fel hyn?
- Pa wybodaeth fyddwch yn ei rhoi yn eich adroddiad? Pam?
- Sut y byddwch yn ysgrifennu eich adroddiad i ddangos eich adolygiad a’ch argymhellion?
- I bwy fyddwch chi'n ei gyflwyno? Pam?
Gweithgaredd pellach:
- Cynlluniwch a chynhaliwch astudiaeth i leihau'r gwastraff o focsys cinio pecyn.