Sut y gallaf helpu i leihau gwastraff y cartref?
Ewch i'r wefan hon: https://statswales.gov.wales/Catalogue
Dilynwch y dolenni cyswllt hyn:
Yr amgylchedd a chefn gwlad – Rheoli gwastraff – Gwastraff dinesig awdurdodau lleol – Blynyddol – Adroddiadau –
Cyfraddau ailddefnyddio/ailgylchu/compostio gwastraff trefol awdurdodau lleol a blwyddyn.
- Beth mae’r ystadegau hyn yn ei ddweud wrthym? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut mae eich awdurdod lleol yn cymharu â gweddill Cymru? Pam ydych chi'n meddwl mae hynny? A yw hyn yn syndod i chi? Pam?
- Pa wybodaeth sydd yn yr adroddiadau eraill? Sut ydych chi'n gwybod?
- Sut ydych chi'n meddwl y gellid gwella ar y ffigurau hyn? Pam ydych chi'n meddwl y byddai hynny'n gweithio?
- Sut allech chi ddangos yr ystadegau hyn fel graffiau neu siartiau? Pa rai fyddai orau? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Cynlluniwch strategaeth ar gyfer eich cartref chi.
- Sut allech chi fesur pa ganran o wastraff eich cartref sy’n cael ei ailddefnyddio/ailgylchu neu ei gompostio? Pam y byddech yn ei wneud fel hyn?
- Sut allech chi leihau gwastraff eich cartref? Pam ydych chi'n meddwl y byddai hyn yn ei leihau?
- Sut allech chi gynyddu faint o wastraff eich cartref sy’n cael ei ailddefnyddio/ailgylchu a'i gompostio?
- Gweithredwch eich strategaeth a chasglwch ddata i'w ddefnyddio i ddangos a yw eich strategaeth wedi bod yn effeithiol.
- Adroddwch ar eich canfyddiadau i'r dosbarth.