Pa dargedau allwn ni eu gosod?
- Yn seiliedig ar y graff, a yw'r targed o 70% yn debygol o gael ei fodloni? (http://www.letsrecycle.com/wp-content/uploads/2015/02/recycling-table-wales.png)
- Pam ydych chi’n meddwl hynny?
- Disgrifiwch ac eglurwch eich syniadau.
Cynlluniwch strategaeth ar gyfer eich cartref.
- Sut allech chi fesur canran gwastraff eich cartref sy'n cael ei ailddefnyddio/ailgylchu neu ei gompostio?
- Pam y byddech yn ei fesur fel hyn?
- Sut allech chi leihau gwastraff eich cartref? Pam ydych chi'n meddwl y byddai hyn yn ei leihau?
- Sut allech chi gynyddu faint o wastraff eich cartref sy’n cael ei ailddefnyddio/ailgylchu a'i gompostio?
Defnyddiwch eich mesuriadau i osod targedau ar gyfer gwastraff eich cartref.
- Pa strategaethau y gallech eu defnyddio i leihau gwastraff? Pam y byddai’r rhain yn gweithio?
- Rhowch eich strategaethau ar waith a chasglu data dros gyfnod o amser.
- Dangoswch eich data eich hun a data’r grŵp i ddangos pa mor dda y mae eich strategaethau wedi gweithio.
- Adroddwch i’r dosbarth ar eich canfyddiadau ac effeithiolrwydd eich strategaethau.