A allwn ni wella ein cyfraddau ailgylchu?
- Pa ganran o bobl sy’n honni eu bod yn ailgylchu ’pob un'? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Beth am ’y mwyafrif helaeth’, 'dim' neu 'hanner neu lai'?
- Gwnewch ymchwil i’r hyn y mae eich ysgol yn ei ailgylchu.
- Faint o wastraff mae eich ysgol yn ei ailgylchu? Sut ydych chi’n gwybod?
- Pa ddefnyddiau mae eich ysgol yn eu hailgylchu? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Defnyddiwch yr offer rhyngweithiol i dynnu siart cylch sy'n dangos eich canfyddiadau.
Cynlluniwch ymgyrch i gynyddu’r ailgylchu sy’n digwydd yn eich ysgol.
- Sut fyddwch yn darganfod ac yn mesur yr hyn mae’r ysgol yn ei ailgylchu? Pam gwneud fel hyn?
- Sut fyddwch chi'n dangos y data hwn? Pam?
- Sut fyddwch yn defnyddio'r data hwn i berswadio pobl i ailgylchu mwy? Pam ydych chi'n meddwl y bydd hyn yn gweithio?
- Fyddwch chi’n gosod targedau? Pam? Sut y byddwch chi’n penderfynu beth fydd y targedau? Pam?
Cynhaliwch eich ymgyrch.
- Sut fyddwch yn monitro rhoi eich ymgyrch ar waith? Pam ei monitro fel hyn?
- Pa fesuriadau y byddwch yn eu gwneud? Pam?
- Sut fyddwch chi'n defnyddio'r mesuriadau hyn? Pam eu defnyddio fel hyn?
- Sut fyddwch yn barnu llwyddiant eich ymgyrch?
- Sut fyddwch yn gwybod pa effaith y mae eich ymgyrch wedi ei chael?