Beth sydd ym min sbwriel y dosbarth?
- Beth sydd yn y bin sbwriel yn y dosbarth? Pam maen nhw yna?
- Sut y gallen ni daflu llai o bethau i'r bin? Pam y byddai hynny'n gweithio?
- Sut y gallem greu llai o wastraff yn y dosbarth ac o amgylch yr ysgol?
- Trafodwch a rhannwch eich syniadau.
- Dangoswch faint o bob un peth sydd yn y bin.
- Edrychwch ar gynnwys bin sbwriel pob dosbarth?
- Pa wahanol bethau sydd ynddyn nhw?
- A ydy'r pethau sydd mewn biniau dosbarthiadau eraill yr un fath â'r pethau sydd yn y bin yn eich dosbarth chi? Pam ydych chi'n meddwl mae hynny?
- Sut y gallech chi fesur faint o wastraff sydd ym min sbwriel pob dosbarth?
- Defnyddiwch y wybodaeth hon i baratoi sgwrs.
- Gofynnwch i bob dosbarth daflu llai o bethau i'w bin sbwriel bob dydd.
- Ar ôl i chi gynnal eich sgwrs, mesurwch faint o sbwriel sydd ym min sbwriel pob dosbarth, pob dydd.
- Beth wnaethoch chi ei ddarganfod?
- Pa mor llwyddiannus oedd eich sgwrs?
- Beth arall allech chi ei wneud i berswadio pobl i daflu llai o sbwriel ymaith?