Faint o halen? – Ymchwil
Casglwch labeli oddi ar eich hoff fwydydd a dewch â nhw i'r ysgol.
Pa wybodaeth am halen sydd ar y labeli hyn?
Gweithiwch allan faint o halen sydd yn eich hoff bryd bwyd a faint o halen y gallech ei fwyta mewn diwrnod nodweddiadol.
Sut y gallech chi ddefnyddio eich canfyddiadau?
A) Gallech, er enghraifft, gynnal ymchwil wyddonol i halen a'r effaith a gaiff gormod o halen yn ein deiet ar iechyd dynol.
Gallech ddefnyddio eich canfyddiadau i greu poster neu inffograffeg 'iechyd y cyhoedd’ sy'n edrych ar fanteision ac anfanteision halen mewn bwyd.
B) Gallech, er enghraifft, ysgrifennu at y cwmni sy'n cynhyrchu eich hoff fwyd sy’n cynnwys llawer o halen,
i roi gwybod iddynt pam y gall gormod o halen fod yn afiach a cheisio eu perswadio i ystyried lleihau y swm o halen y maent yn ei ychwanegu at y bwyd.