Faint o siwgr ydyn ni’n ei fwyta?
Faint o siwgr sydd ym mhob un o'r bwydydd hyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Casglwch labeli oddi ar eich hoff fwydydd a dewch â nhw i'r ysgol.
Pa wybodaeth am siwgr sydd ar y labeli hyn?
Sut gaiff yr wybodaeth hon ei dangos?
Gweithiwch allan faint o siwgr sydd yn eich hoff bryd o fwyd a faint o siwgr y gallech ei fwyta mewn diwrnod nodweddiadol.