Ymchwilio i glefyd siwgr
Ymchwil: Defnyddiwch y rhyngrwyd i ddod o hyd i ddata am glefyd siwgr. A yw'r clefyd yn cynyddu neu'n gostwng?
Pam mae rhai pobl sydd â chlefyd siwgr yn cymryd inswlin?
Beth yw effeithiau buddiol a niweidiol inswlin ar organau’r corff dynol? Beth yw’r effeithiau eraill o'i ddefnyddio?
Ble byddwch chi'n chwilio? Pam? Pa beiriannau chwilio fyddwch yn eu dewis? Pam?
Pa dermau chwilio fyddwch chi'n eu defnyddio? Pam?
Sut fyddwch chi'n gwybod a yw'r data y dewch o hyd iddo yn ddibynadwy?
Sut fyddwch chi’n gwybod os yw’n dangos tuedd?
Crëwch inffograffig i ddangos canfyddiadau eich ymchwil.