Beth ydyn ni’n ei fwyta a’i yfed?
Edrychwch ar y llun. Beth mae’r llun yn ei ddweud wrthych chi? Pam ydych chi’n meddwl hynny?
Sawl lwmp o siwgr sydd ym mhob un o’r pethau?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Dangoswch yr wybodaeth yma yn y dosbarth, gan ddefnyddio gwrthrychau go iawn.
Sut fyddwch chi’n gwneud hyn?
Ym mha ffordd arall allech chi wneud hyn?
Sut allech chi ganfod faint o siwgr sydd mewn mathau eraill o fwyd a diod?
Dewch o hyd i’r ateb a dangoswch yr wybodaeth yn eich dosbarth.
Ym mha ffyrdd eraill fyddech chi’n gallu dangos yr wybodaeth hon?
Sut ydych chi’n gwybod am y ffyrdd hyn?
Pa un fyddai’r ffordd orau efallai i ddangos yr wybodaeth?
Pam ydych chi’n meddwl hynny?