Faint o amser ydym ni'n ei dreulio ar-lein?
- Ystyriwch y pedair eitem o ddata ymchwil ac yna’u trafod.
- Rhannwch eich syniadau.
- A yw'r ymchwil yn gwneud synnwyr? Pam?
- Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich syniadau?
- Pa rannau o'r ymchwil hwn sy’n peri syndod i chi? Pam?
- Sut ydych chi'n meddwl y cafodd yr ymchwil hwn ei wneud? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut ydych chi'n meddwl y cafodd y data hwn ei gasglu?
- Pa mor ddibynadwy yw’r data hwn yn eich barn chi? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Faint o amser ydym ni’n ei dreulio ar-lein?
- Cynlluniwch ac yna gwnewch ymchwiliad i gael gwybod am ryw agwedd o ddefnydd ar-lein eich dosbarth.
Ystyriwch:
- A fyddwch angen holiadur? Pam?
- Pwy fyddwch yn eu holi? Pam?
- Pa gwestiwn fyddwch yn ei ymchwilio? Pam?
- Pa wybodaeth y byddwch yn ei chasglu? Pam?
- Pa mor hir fydd y cyfnod o amser y byddwch yn gofyn i bobl gasglu gwybodaeth ar ei gyfer? Pam?
- Beth fyddwch chi'n ei wneud gyda'r wybodaeth y byddwch yn ei chasglu? Sut y byddwch yn ei defnyddio? Pam?
- Pa graffiau a siartiau allech chi eu llunio? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Beth fyddai'r ffordd orau o gyflwyno eich canlyniadau a’ch casgliadau? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Defnyddiwch yr wybodaeth i greu inffograffeg i ddangos eich data.