Beth ydym ni'n ei wybod am Twitter yng Nghymru?
- Beth ydych chi'n ei wybod am Twitter?
- Pwy sy'n defnyddio Twitter?
- Beth yw trydar? Pam mae pobl yn trydar? Sut ydych chi'n gwybod y pethau hyn?
- A yw enw defnyddiwr ar Twitter yn bwysig? Pam?
- Beth mae 'hashtag' yn ei olygu?
- Pam mae pobl yn aildrydar?
- Beth mae'r term ‘materion poblogaidd’ ('trending topics’) yn ei olygu?
Cymry enwog sy’n defnyddio Twitter, 30ain Hydref 2015.
- Pa wybodaeth y mae'r tabl yn ei rhoi i ni? Sut ydych chi'n gwybod?
- Beth mae ’m' a 'k' yn ei olygu yn y golofn 'dilynwyr'? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pwy sydd â'r mwyaf o ddilynwyr a’r lleiaf o ddilynwyr? Sut ydych chi'n gwybod? A ydy’r rhain ar ben y rhestr ac ar waelod y rhestr? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pe byddai angen i chi ddangos yr wybodaeth hon mewn ffordd arall, sut y byddech yn gwneud hynny?
- Allech chi ddefnyddio siart bar? Allech chi ddefnyddio siart cylch? Allech chi ddefnyddio graff llinell? Pam ydych chi'n meddwl hynny? Eglurwch eich syniadau.
Beth yw'r ffigurau cyfredol ar gyfer Cymry sy’n defnyddio Twitter?
- Ydych chi'n meddwl y bydd y tabl hwn wedi newid? Pam?
- Sut a ble fyddwch yn chwilio am yr wybodaeth hon? Pam?
- Sut fyddwch yn cadw cofnod o'r wybodaeth yr ydych yn dod o hyd iddi? Pam cadw cofnod fel hynny?
- Sut fyddwch yn cyflwyno'r wybodaeth? Pam ei chyflwyno fel hyn?
- Beth wnaethoch chi ei ddarganfod?
- A oes rhai o'r enwau wedi newid? Pam ydych chi'n credu bod hynny wedi digwydd?
- A yw rhai o’r enwau yr un fath? A oes ganddynt fwy neu lai o ddilynwyr? Pam ydych chi'n credu bod hynny wedi digwydd?