Beth ydym yn ei wybod am Twitter ledled y byd?
- Pa wybodaeth y mae hyn yn ei rhoi i chi? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut arall y gellid cyflwyno’r wybodaeth hon? Pa un yw'r ffordd orau? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Beth mae'r wybodaeth yn ei ddweud wrthym?
- Edrychwch ar y datganiadau y mae plant wedi eu gwneud am y siart.
- A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â phob datganiad? Pam?
- Pa dystiolaeth sydd gennych?
- Rhannwch eich syniadau a chyfeiriwch at y siart i egluro eich ffordd o feddwl.
Rhagfynegiadau am Twitter:
- Yn 2015, rhagfynegodd Twitter y byddai’r nifer y bobl sy'n mynd ati i’w ddefnyddio'n parhau i gynyddu ar gyfradd debyg.
- Pe byddai hyn wedi digwydd, sut fyddai'r siart yn edrych?
- Beth fyddai nifer y defnyddwyr? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Ychwanegwch y 6 chwarter nesaf i ddangos eich syniadau.
- Edrychwch ar y siart. Cymharwch yr hyn yr ydych wedi ei ychwanegu at y siart wreiddiol â'r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd.
- Pa mor dda oedd eich rhagfynegiadau? Pam ydych chi'n meddwl hynny?