Beth yw ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol?
- Beth yw ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa ymgyrchoedd ydych chi'n gwybod amdanynt? Sut ydych chi'n gwybod amdanynt?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau. Darllenwch yr wybodaeth a gwyliwch y ‘Vine’.
- Ymchwiliwch i ymgyrchoedd eraill yn y cyfryngau cymdeithasol.
- Faint o bobl wnaeth yr ymgyrchoedd eu cyrraedd?
- Defnyddiwch ddata i adrodd eich canfyddiadau i'r dosbarth.
Gwyliwch y clip fideo.
- Beth fyddwch eu hangen i ail-greu'r arbrawf gwyddonol hwn?
- Mewn grwpiau bach, casglwch yr hyn yr ydych eu hangen a gwnewch yr arbrawf gan wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ffilmio.
- Sut y byddwch yn sicrhau bod y clip yn fyr iawn? Beth fyddwch chi'n ei gynnwys? Pam?
Sut allwn ni greu ymgyrch yn y cyfryngau?
- Yn eich grŵp, defnyddiwch eich syniadau i greu ymgyrch yn yr ysgol.
- Sut allech chi gael rhieni a'r gymuned leol i ymgysylltu â gwyddoniaeth?
Ystyriwch: Sut allech chi ddefnyddio clipiau fideo byr a lluniau?
- Sut allech chi wneud defnydd o wefan yr ysgol?
- Sut allech chi berswadio athrawon i drydar clipiau fideo a delweddau neu eu postio ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
- Pa ddigwyddiadau allech chi eu cynnal? Sut gallech chi hysbysebu’r digwyddiadau hyn? Pam y byddai hyn yn helpu?
- Sut allech chi amcangyfrif y nifer o bobl yr ydych wedi cyrraedd atyn nhw?