Beth yw'r safleoedd rhwydwaith cymdeithasol sydd yn cael eu defnyddio fwyaf?
- Pa gyfryngau cymdeithasol ydych chi a'ch ffrindiau yn eu defnyddio’n bennaf? Pam y rhain?
- A oes unrhyw rai nad ydych yn eu defnyddio? Pam?
- Sut mae safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn newid mewn poblogrwydd? Pam ydych chi'n meddwl bod hyn yn digwydd?
- A yw pobl o bob oed yn defnyddio'r un cyfryngau cymdeithasol? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
- Beth allwn ni ei ddarganfod gan ystadegau?
- Sut mae'r data wedi ei ddangos? Pam?
- Beth mae'n ei ddangos i ni? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa ddata sy’n peri syndod i chi? Pam?
Beth allwn ni ei ddarganfod o waith ymchwil?
- Beth yw'r 5 safle rhwydwaith cymdeithasol gorau a ddefnyddir yn eich grŵp blwyddyn? Sut allech chi ddarganfod hyn?
- Pam y byddech yn ei wneud yn y ffordd hon?
- Gwnewch yr ymchwil a chofnodi eich canfyddiadau.
- Defnyddiwch Excel i arddangos eich canfyddiadau.
- Sut mae eich data yn cymharu â’r data yn nhasg 1? Pam ydych chi'n meddwl mae hyn?
- Pa ddata y byddai angen i chi ei gasglu i gael gwybod os yw data’r ardal yr ydych yn byw ynddi yn adlewyrchu'r defnydd ledled y byd? Pam ydych chi'n meddwl hynny?