Sut y gallwn wneud ein defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn fwy diogel?
- Beth yw bwlio ar y rhyngrwyd? Sut ydych chi'n gwybod?
- Beth yw trolio ar y rhyngrwyd? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Ar bwy mae’r pethau hyn yn effeithio? Sut?
- Beth yw'r ffordd orau i ymateb i fwlio neu drolio ar y rhyngrwyd? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
- Beth mae’r data yn ei ddangos i ni?
- Sut mae'r data wedi ei ddangos? Pam? Beth mae'n ei ddangos i ni? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa ddata sy’n peri syndod i chi? Pam?
- Pa gasgliadau allwch chi eu tynnu o'r data hwn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa mor gadarn yw'r casgliadau hyn?
- Pa dystiolaeth sydd yna i gefnogi eich syniadau?
- Ble a sut allech chi ddod o hyd i ragor o dystiolaeth?
Defnyddiwch 'Meddwl-Paru-Rhannu' i benderfynu sut y byddech yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i adrodd ar y data o'r siart bar.
- Sut fyddech chi'n ysgrifennu erthygl i'w chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol am fwlio neu drolio?
- Defnyddiwch y data o'r siart bar hwn a data eraill yr ydych yn dod o hyd iddo i gefnogi eich honiadau.
- Sut y gellid datrys y problemau hyn? Pam ydych chi'n meddwl y byddai’r pethau hyn yn helpu? Pa dystiolaeth sydd gennych? O ble y cawsoch chi’r dystiolaeth hon?