Beth yw Twitter?
- Beth ydych chi'n ei wybod am Twitter?
- Pwy sy'n defnyddio Twitter?
- Beth yw trydar? Pam mae pobl yn trydar? Sut ydych chi'n gwybod y pethau hyn?
- A yw enw defnyddiwr ar Twitter yn bwysig? Pam?
- Beth mae 'hashtag' yn ei olygu?
- Pam mae pobl yn aildrydar?
- Beth mae'r term ‘materion poblogaidd’ ('trending topics’) yn ei olygu?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
- Defnyddwyr Twitter ledled y byd, Gorffennaf 2017.
- Pa wybodaeth y mae'r tabl yn ei chynnwys? Sut ydych chi'n gwybod? Pa ddata sy’n peri syndod i chi? Pam?
- Chwiliwch am ddata ledled y byd ar hyn o bryd.
- Ydych chi'n meddwl y bydd y tabl hwn wedi newid? Pam? Sut y bydd wedi newid?
- Pe byddai angen i chi ddangos yr wybodaeth hon mewn ffordd arall, sut y byddech yn gwneud hynny?
- Allech chi ddefnyddio siart bar? Allech chi ddefnyddio siart cylch? Allech chi ddefnyddio graff llinell? Pam ydych chi'n meddwl hynny? Eglurwch eich syniadau.
- Pa mor fawr yw Twitter mewn gwirionedd?
- Pa wybodaeth sy’n cael ei dangos yn y graff? Sut ydych chi'n gwybod?
- Beth sy’n peri syndod i chi? Pam?
Ystyriwch y datganiadau hyn - defnyddiwch y graff i gefnogi eich syniadau:
- 'Dim ond tua 10% o ddefnyddwyr Twitter sy’n dilyn mwy na 50 o bobl'.
- 'Dim ond tua hanner cyfrifon cofrestredig Twitter sy’n dilyn 2 neu fwy o bobl'.
- ’Mae tua 1.5 miliwn o gyfrifon Twitter yn dilyn mwy na 500 o bobl’
- A ydych yn cytuno neu'n anghytuno â’r datganiadau hyn? Pam?
- A yw'r dystiolaeth yn cefnogi eich syniadau.
- Defnyddiwch y graff i ysgrifennu datganiad. Cyfnewidiwch eich datganiad gyda phartner.
- Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â datganiad eich partner? Pam?