A yw pobl yn eu harddegau yn y DU yn adlewyrchu pobl yn eu harddegau yn UDA?
Cliciwch ar y saeth i ddangos graff rhif 1.
Pa wybodaeth y mae graff rhif 1 yn1 ei dangos? Sut ydych chi'n gwybod?
Beth sy’n peri syndod i chi? Pam?
Cliciwch ar y saeth i ddangos siart rhif 2.
Pa wybodaeth y mae siart rhif 2 yn ei dangos? Sut ydych chi'n gwybod?
Beth sy’n peri syndod i chi? Pam?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Mae'r ddwy set o ganfyddiadau yn 1 a 2, yn cwmpasu cyfnod o amser rhwng 2011-2013.
A ydynt yn cefnogi ei gilydd? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
A ydynt yn dangos yr un peth i ni neu gwahanol bethau? Sut ydych chi'n gwybod?
A ydynt yn gwrth-ddweud ei gilydd? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth yw'r sefyllfa bresennol gyda Twitter?
Chwiliwch am ddata cyfredol am ddefnydd o Twitter.
A yw’r defnydd yn cynyddu?
A yw'r defnydd yr un fath ar gyfer pob grŵp oedran?
Sut a ble y byddwch yn chwilio am wybodaeth? Pam?
Sut y byddwch yn cadw cofnod o'r wybodaeth yr ydych yn dod o hyd iddi? Pam cadw cofnod fel hyn?
Adroddwch eich canfyddiadau ar ffurf un trydar - cadwch at y terfyn 140 cymeriad.
Pam ydych chi'n meddwl mae Twitter wedi gosod terfyn o 140 cymeriad ar gyfer pob trydar?
Gofynnwch i blant eraill ddarllen eich trydar ac yna ymateb iddo.