A yw pobl yn eu harddegau yn y DU yn adlewyrchu pobl yn eu harddegau yn yr UDA?
Pa un yw eich hoff ap rhwydweithio cymdeithasol?
- A yw eich ffrindiau yn cytuno a’ch dewis?
- Pa ap sydd ar gynnydd? Pam ydych chi'n meddwl bod hyn yn digwydd?
- Pa ap sydd a’i ddefnydd yn gostwng?
- Pam ydych chi'n meddwl bod hyn yn digwydd?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Pa un yw hoff rwydwaith cymdeithasol pobl yn eu harddegau yn yr Unol Daleithiau? Cliciwch ar y siart.
- Sut mae'r data wedi cael ei ddangos? Pam?
- Sut arall y gellid ei ddangos? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Beth mae'n ei ddangos i ni? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- A oes digon o wybodaeth i arsylwi ar batrymau a thueddiadau a dod i gasgliadau? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth yw hoff rwydwaith cymdeithasol y DU?
- Rhowch amlinelliad o gynllun i ddatblygu astudiaeth debyg yn y DU.
Ystyriwch: Sut fyddech chi'n casglu gwybodaeth? Pam casglu gwybodaeth yn y ffordd hon?
- Dros ba gyfnod o amser y byddech yn casglu gwybodaeth? Pam?
- Faint o bobl yn eu harddegau y byddech yn casglu gwybodaeth ganddyn nhw? Pam?
- Pa ardaloedd yn y DU y byddech yn eu defnyddio i gasglu gwybodaeth? Pam?
- Gwnewch y gwaith ymchwil a gynlluniwyd gennych, yn eich ysgol.
- Defnyddiwch Excel i arddangos eich canfyddiadau.
- Beth yw cyfyngiadau yr astudiaeth hon mewn ysgol? Pam ydych chi'n meddwl hynny?