Sawl cam mewn diwrnod?
- Faint o gamau ydych chi'n eu cymryd mewn diwrnod? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Faint o gamau ydym ni i fod i gerdded mewn diwrnod? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Pwy sy'n meddwl y dylem gerdded y nifer hyn o gamau mewn diwrnod? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pam ydych chi'n meddwl eu bod yn argymell y nifer hyn o gamau?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Sut allwn ni arddangos canlyniadau?
- Defnyddiwch y llyfr gwaith Excel i ddangos y canlyniadau hyn fel graff neu siart.
- Beth fyddwch chi'n ei lunio? Pam? Sut y byddwch yn ei lunio? Pam ei lunio fel yna?
- Beth oedd y targed? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth yw ein canlyniadau?
- Darganfyddwch faint o gamau mae pob person yn eich dosbarth yn eu cymryd mewn diwrnod. Cofnodwch y canlyniadau.
- Penderfynwch sut i'w harddangos. Defnyddiwch lyfr gwaith Excel i ddangos eich syniadau.
- Sut y byddwch yn arddangos y canlyniadau? Pam eu harddangos fel hyn?
- Sut mae hyn yn wahanol i’r ffordd y dangosir y canlyniadau yn y tabl? Pam ydych chi wedi dangos eich canlyniadau mewn ffordd wahanol?
Sut mae defnyddiau clyfar yn cael eu defnyddio i gyfrif camau?
- Gwnewch waith ymchwil i gael gwybod. Crëwch boster i ddangos eich canfyddiadau.
- Pa mor fanwl gywir yr honnir y mae’r offer 'cyfrif camau' hyn? Pam ydych chi'n meddwl mae hynny?