Beth allwn ni ei ddysgu gan leiniau uwchfioled yn newid lliw?
- Beth ydych chi'n ei wybod am olau uwchfioled? Sut ydych chi'n gwybod y pethau hyn?
- Beth yw gleiniau uwchfioled? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- I beth y gellid defnyddio gleiniau uwchfioled, yn eich barn chi? Pam?
- Gwyliwch y clip fideo.
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Beth all gleiniau uwchfioled eu dangos i ni?
Tasg: Rhowch rai gleiniau uwchfioled ar ddarn o linyn neu lanhawr pibell.
- Rhowch nhw o amgylch eich garddwrn ar ffurf breichled a’u gorchuddio gyda'ch llaw arall.
Ewch y tu allan i olau'r haul.
Cymerwch eich llaw oddi ar y freichled ac arsylwi ar yr hyn sy'n digwydd.
Beth wnaethoch chi ei weld yn digwydd? Pam ydych chi'n meddwl bod hyn wedi digwydd?
Beth all gleiniau uwchfioled eu dangos i ni?
Meddyliwch beth allech chi ei ymchwilio gan ddefnyddio gleiniau uwchfioled, a thrafodwch hyn.
Crëwch restr o gwestiynau y gellid eu hymchwilio.
Dewiswch y cwestiwn sydd o ddiddordeb mwyaf i chi.
Cynlluniwch ymchwiliad i archwilio’r cwestiwn hwn, ac yna gwnewch yr ymchwiliad.
Ystyriwch: Pa newidyn fyddwch chi’n ei newid? Pam?
Pa newidyn fyddwch chi’n ei fesur? Pam?
Faint o fesuriadau y byddwch yn eu cymryd? Pam?
Pa mor aml y byddwch chi’n cymryd y mesuriadau? Pam?
Pa newidynnau fyddwch chi'n eu cadw'r un fath? Pam?
Sut allech chi arddangos eich canfyddiadau? Pa ddull o’u harddangos fyddwch chi’n ei ddewis?