Beth yw CTC (Cyfansoddyn Twnelu Cwantwm)?
- Darllenwch y wybodaeth am gyfansoddion twnelu cantwm (CTC).
- Meddyliwch sut y mae gwrthiant trydanol yn newid pan fydd grym yn cael ei weithredu. Rhanwch a thrafodwch eich syniadau.
- Sut fyddai graff gwrthiant yn erbyn grym yn edrych? Pam ydych chi'n meddwl hynny? Brasluniwch eich syniadau.
- Defnyddiwch Excel i lunio graff.
- Pa raddfeydd fyddwch chi'n eu defnyddio? Pam?
- Beth yw'r newidyn annibynnol? Sut ydych chi'n gwybod?
- Beth yw'r newidyn dibynnol? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa un fyddwch chi’n ei blotio ar echelin-X a pha un ar echelin-Y? Pam?
I beth y defnyddir CTC?
Gwnewch waith ymchwil a gwneud cyflwyniad 45 eiliad i amlinellu sut y defnyddir CTC.
- Ystyriwch: Ble a sut y byddwch yn chwilio am wybodaeth? Pam? Sut y byddwch yn cofnodi'r wybodaeth y dewch chi o hyd iddi? Pam ei chofnodi fel hyn?
- Sut y byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau? Pam?
- Beth sy'n gwneud cyflwyniad da? Pam ydych chi'n meddwl hynny?