Pa mor glyfar yw olrheinwyr clyfar?
- Beth ydym yn ei olygu wrth 'cyfradd curiad y galon'? Sut ydych chi'n gwybod?
- Beth yw’r 'curiad (pwls)’? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut mae’r ‘curiad (pwls)’ yn wahanol i ‘gyfradd curiad y galon’?
- Sut y gallwn fesur ein curiad (pwls) a chyfradd curiad ein calon? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Pam ydych chi'n meddwl bod pobl yn mesur eu curiad (pwls) a chyfradd curiad eu calon?
- Sut y defnyddir technoleg glyfar i wneud hyn?
- Pa dechnoleg glyfar ydych chi'n gwybod amdani sy'n olrhain ffitrwydd ac iechyd? Sut ydych chi'n gwybod y pethau hyn?
- Pa dechnolegau ydych chi wedi eu defnyddio? Pam? Sut rai oedden nhw?
- Beth mae hi'n ei fesur mewn gwirionedd yn y fideo? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Beth ydym yn ei olygu wrth 'cywirdeb'? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- A allai’r clip fideo fod â thuedd neu ragfarn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut allech chi wirio dibynadwyedd yr wybodaeth yn y fideo? Pam y byddai hyn yn gweithio?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Ystyriwch pam mae iechyd a ffitrwydd yn bwysig, a defnyddiwch y rhyngrwyd i ymweld â fersiwn Gymraeg o’r wefan hon: https://www.nhs.uk/livewell/fitness/Pages/Fitnesshome.aspx
Mae’n rhaid i chi archwilio’r wefan , a thrafod a rhannu eich canfyddiadau.
Sut y gallwn ni gymharu ffyrdd o fesur cyfradd curiad ein calon?
- Am beth mae’r clip yn son? Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Tasg: Cynlluniwch ac yna gwnewch ymchwiliad i ddarganfod sut mae ymarfer corff yn effeithio ar gyfradd curiad eich calon.
- Gwnewch yr ymchwiliad dair gwaith, gan ddefnyddio ffordd wahanol o fesur cyfradd curiad eich calon bob tro.
- Sut y byddwch chi’n gwneud hyn? Pa broblemau a allech chi eu hwynebu wrth wneud hyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut allech chi oresgyn y problemau hyn?
- Pam y gallai eich awgrymiadau weithio i oresgyn eich problemau?
- Cofnodwch eich canlyniadau.
- Defnyddiwch llyfr gwaith Excel i arddangos eich canlyniadau. Sut fyddwch chi'n gwneud hyn? Beth fyddwch chi’n ei lunio? Pam ei wneud fel yna?
- Pa gasgliadau y dewch chi iddyn nhw o dair set o ganlyniadau? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth allawn ni ei ddarganfod am olrheinwyr clyfar?
- Edrychwch am fwy o wybodaeth am pa dechnoleg glyfar sy’n cael ei defnyddio mewn olrheinwyr ffitrwydd.
- Beth maen nhw'n ei fesur mewn gwirionedd? Pam ei bod hi’n ddefnyddiol gwybod y mesuriadau hyn?
- Sut allech chi ddefnyddio’r mesuriadau hyn? Sut y byddai hynny o gymorth?
- Dyluniwch ’draciwr ffitrwydd' newydd. Beth mae'n ei fesur? Pam?
- Beth yw ei enw? Pam? Beth yw ei bwynt gwerthu unigryw? Pam mae hyn yn ei wneud yn unigryw?