Sut y defnyddir defnyddiau clyfar i fesur cyfradd curiad y galon?
- Beth yw 'electrolycra? Sut ydych chi'n gwybod? Beth yw ei ddiben? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer mesur? Sut ydych chi'n gwybod?
Cliciwch ar y llun o’r ferch uchod.
- Beth mae hi’n ei ddweud?
- Sut fyddai synhwyrydd chwaraeon o'r fath yn cael ei ddefnyddio i fesur cyfradd curiad y galon?
- Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Sut y gallwn ni archwilio’r gwaith ymchwil?
- Darllenwch eto yr hyn y mae’r ferch wedi ei ddarganfod o'i hymchwil.
- Pe byddech yn newid y grym sy’n cael ei weithredu ar ddarn o electrolycra a mesur ei wrthiant, sut fyddai graff yn dangos hyn yn edrych?
- Beth fyddech chi'n ei roi ar echelin-X ac ar echelin-Y? Pam?
- Pa raddfa fyddech chi'n ei defnyddio? Pam?
- Defnyddiwch lyfr gwaith Excel i ddangos eich syniadau.
Tasg: Gwnewch waith ymchwil ar electrolycra.
- O beth y mae’n cael ei wneud?
- Sut mae'n gweithio?
- Sut mae'n edrych?
- At pa bwrpas arall y mae’n cael ei ddefnyddio?
- Defnyddiwch ’y gadair goch' i adrodd yn ôl i'r lleill yn y dosbarth am yr hyn yr ydych wedi ei ddarganfod.