Beth sy’n gwneud gwyliau da?
Beth yw gwyliau? Sut ydych chi'n gwybod hynny? O ble mae'r term yn dod?
Beth sy'n gwneud gwyliau da? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Crëwch feini prawf llwyddiant ar gyfer ‘beth sy'n gwneud gwyliau da’.
Ysgrifennwch eich syniadau yn y blychau.
Llusgwch a gollyngwch y blychau ar y grid rhestru diemwnt.
Beth yw eich meini prawf pwysicaf? Pam?
Beth yw eich meini prawf lleiaf pwysig? Pam?
Beth fyddai eich gwyliau gorau erioed?
Meddyliwch am yr hyn fyddai'n gwneud y gwyliau gorau erioed.
Ble fyddech chi'n mynd? Pam?
Pryd fyddech chi'n mynd? Pam?
Gyda phwy fyddech chi'n mynd? Pam?
Beth fyddech chi'n ei gymryd gyda chi? Pam?
Beth fyddech chi'n ei wneud ar y gwyliau? Pam fyddech chi'n gwneud y pethau hyn?
Dangoswch eich syniadau ar gyfer y gwyliau gorau erioed mewn cyflwyniad un munud.
Gallech wneud animeiddiad, fideo neu bodlediad, er enghraifft.
Beth fyddai'r ffordd orau o ddangos eich syniadau? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Cynlluniwch a gwnewch eich cyflwyniad.