Sut y gallwn ni amddiffyn ein hunain yng ngolau haul?
Pam mae angen i ni amddiffyn ein hunain yng golau haul? Sut y gallai golau haul wneud niwed i ni? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth yw golau uwchfioled (UV)? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
Beth mae’r graff yn ei ddangos? Sut ydych chi'n gwybod?
Pa stori mae’r graff yn ei ddweud? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Pa gasgliadau y gallwch chi eu tynnu o'r wybodaeth yn y graff? Pa mor siŵr ydych chi o'r casgliadau hyn? Pam?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Beth ydym ni'n amddiffyn ein hunain rhagddo?
Dewiswch ‘isdeitlau Cymraeg’ yn y ‘gosodiadau’ a gwylio’r clip fideo.
Beth oedd eich barn am y fideo? Pam?
Beth oedd y negeseuon yn y fideo? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Sut allwn ni greu ffilm wybodaeth?
Cynlluniwch a gwnewch waith ymchwil i ddod o hyd i wybodaeth ynghylch pam mae angen i ni amddiffyn ein hunain rhag yr haul a pha gamau y gallwn eu cymryd i wneud hynny.
Gwnewch fideo fer sy'n esbonio i blant neu rieni iau pam bod angen i ni amddiffyn ein hunain rhag gormod o olau haul.
Ystyriwch: Ble a sut y byddwch chi'n chwilio am wybodaeth? Pam?
Sut byddwch chi'n penderfynu beth i'w gynnwys yn y fideo? Pam penderfynu fel hyn?
Pwy fydd yn y fideo? Pam?
Pa negeseuon allweddol ydych chi am i'r fideo eu cyfleu? Pam? Sut byddwch chi'n cyflawni hyn?