Pam y gall fod yn amser gwahanol o’r dydd pan fyddwn ni dramor?
Beth ydych chi'n ei feddwl am y syniadau hyn? Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno? Pam?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Sut gallwn ni egluro pam mae dydd a nos yn digwydd?
Pam ydym ni’n cael dydd a nos? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Pam ei bod hi’n adeg wahanol o'r dydd ar ochr arall y byd?
Beth yw cylchfa (neu ranbarth) amser? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
Ble mae'r gwahanol gylchfaoedd (neu ranbarthau) amser? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Sut allwn ni esbonio dydd a nos i bobl eraill?
Gwyliwch y clip fideo.
Beth oedd eich barn am y fideo? Pam?
Beth oedd y fideo yn ei ddweud wrthych chi? Pam ydych chi'n meddwl hynny? Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Cynlluniwch a chrewch eich clip fideo un munud eich hun i egluro pam mae dydd a nos yn digwydd.
Cynhwyswch eich syniadau am pam ei bod yn adeg wahanol o'r dydd mewn gwahanol leoedd o gwmpas y byd.