Sut y gallwn ni gynllunio gwyliau tramor?
- Ble hoffech chi fynd? Pam?
- Beth ydych chi'n ei wybod am y wlad hon? Sut ydych chi'n gwybod y pethau hyn?
- Beth fyddech chi'n ei wneud yno? Pam?
- Pa un o'r lleoedd y mae'r ferch yn eu hystyried yr hoffech chi ymweld â nhw fwyaf? Pam?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Beth ydych chi'n ei wybod am wefannau teithio?
- Pa wefannau cymharu prisiau hedfan wyddoch chi amdanynt? Sut ydych chi'n gwybod am y rhain?
- Pa wefannau y gellid eu defnyddio i archebu gwyliau, gwestai, teithiau hedfan ac yn y blaen? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Sut allwn ni drefnu'r gwyliau rhataf posibl?
- Penderfynwch ar hoff wlad neu le yr hoffech ymweld â nhw.
- Cynlluniwch wyliau i’r wlad hon neu’r lle hwn i chi a'ch teulu am y pris rhataf posibl.
Ystyriwch sut y cewch y rhain rataf:
- hedfan mewn awyren
- gwesty
- trosglwyddiadau o’r maes awyr i’r gwesty ac yn ôl i’r maes awyr
- llogi car os oes ei angen arnoch.
- Sut fyddwch chi'n teithio i'r maes awyr? Pam?
- Cyflwynwch eich cynllun terfynol i'r dosbarth.
- Eglurwch sut y daethoch chi o hyd i'r fargen orau ar deithiau hedfan, gwestai ac yn y blaen.
- Dylech gynnwys dadansoddiad o'r holl gostau a'r gost derfynol.