Beth sy’n gwneud gwyliau da?
- Beth yw gwyliau? Sut ydych chi'n gwybod hynny? O ble mae'r term yn dod?
- Beth sy'n gwneud gwyliau da? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Crëwch feini prawf llwyddiant ar gyfer ‘beth sy'n gwneud gwyliau da’.
- Ysgrifennwch eich syniadau yn y blychau.
- Llusgwch a gollyngwch y blychau ar y grid rhestru diemwnt.
- Beth yw eich meini prawf pwysicaf? Pam?
- Beth yw eich meini prawf lleiaf pwysig? Pam?
Beth fyddai eich gwyliau gorau erioed?
- Meddyliwch am yr hyn fyddai'n gwneud y gwyliau gorau erioed.
- Ble fyddech chi'n mynd? Pam?
- Pryd fyddech chi'n mynd? Pam?
- Gyda phwy fyddech chi'n mynd? Pam?
- Beth fyddech chi'n ei gymryd gyda chi? Pam?
- Beth fyddech chi'n ei wneud ar y gwyliau? Pam fyddech chi'n gwneud y pethau hyn?
- Dangoswch eich syniadau ar gyfer y gwyliau gorau erioed mewn cyflwyniad un munud.
- Gallech wneud animeiddiad, fideo neu bodlediad, er enghraifft.
- Beth fyddai'r ffordd orau o ddangos eich syniadau? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Cynlluniwch a gwnewch eich cyflwyniad.