Sut y gallwn ni amddiffyn ein hunain yng ngolau haul?
- Pam mae angen i ni amddiffyn ein hunain yng ngolau haul? Sut y gallai golau haul wneud niwed i ni? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Beth yw golau uwchfioled (UV)? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
- Gwnewch ymchwil am oleuni uwchfioled (UV) a'i effeithiau ar y corff dynol.
- Cynhwyswch ddata a graffiau lle bo modd a defnyddiwch eich gwybodaeth wyddonol i egluro sut y gall golau uwchfioled (UV) effeithio ar y corff dynol.
- Crëwch gyflwyniad dau funud i rannu'ch canfyddiadau gyda'r dosbarth.
Pa honiadau mae’r cwmnïau sy’n cynhyrchu eli haul yn eu gwneud?
- Edrychwch ar y ddau graff.
- Pa wybodaeth maent yn ei roi i ni? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut maen nhw'n wahanol? Sut maen nhw'n debyg? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa gasgliadau y gallwch chi eu tynnu o'r graffiau hyn?
- Pa mor gadarn yw'r casgliadau hyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Sut y gallem ni brofi eli haul?
- Cynlluniwch a gwnewch ymchwiliad i brofi eli haul gwahanol ffactor.
- Defnyddiwch bapur sy’n sensitif i olau uwchfioled neu leiniau uwchfioled (UV).
Ystyriwch:
- Pa newidyn fyddwch chi'n ei newid a'i fesur? Pam?
- Pa newidynnau fyddwch chi'n eu cadw'r un fath? Pam?
- Sut allech chi ddangos eich canfyddiadau?
- A yw eich canfyddiadau yn cefnogi'r wybodaeth yn y ddau graff? Sut ydych chi'n gwybod?