Sut y gallwn ni amddiffyn ein hunain yng ngolau haul?
- Beth yw 'mynegai uwchfioled (UV)’ yn eich barn chi? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Edrychwch ar y llun. Beth mae’n ei ddweud wrthych chi? Sut ydych chi'n gwybod?
- Pa rif ar y mynegai uwchfioled (UV) yw hi heddiw, yn eich barn chi? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Beth yn eich barn chi yw’r ystod rhifau o’r mynegai uwchfioled a gofnodir yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau
Sut mae graddfeydd mynegai uwchfioled (UV) yn wahanol ar draws y byd?
- Ewch ar wefan y Swyddfa Dywydd (‘Met Office’).
- Teipiwch eich cod post neu enw'r lle rydych chi'n byw ynddo yn y man priodol ar y dudalen flaen.
- Beth yw rhagolygon y tywydd ar gyfer y dyddiau nesaf?
- Beth yw'r tymereddau uchaf a’r lleiaf?
- Beth yw'r graddau mynegai UV ar gyfer yfory? Beth yw'r rhif uchaf ac isaf? Ar ba adeg o'r dydd mae'r graddau UV uchaf ac isaf? Pam ydych chi'n meddwl mae hynny?
- Cliciwch ar 'Tywydd y Byd'.
- Chwiliwch am le yr hoffech chi ymweld ag ef am wyliau.
- Ble ydych chi wedi ei ddewis? Pam dewis y lle hwn?
- Beth yw'r tymereddau sydd yno ar hyn o bryd?
- Beth yw'r graddau mynegai UV yno ar gyfer yfory?
- Sut allwn ni roi gwybod i bobl am y mynegai UV?
- Cynlluniwch a gwnewch waith ymchwil i ddod o hyd i wybodaeth am y mynegai UV.
- Gwnewch boster sy'n hysbysu pobl am y mynegai UV ac yn rhoi arweiniad ar sut i amddiffyn eich hun yng golau haul.