A yw'r môr yn ddigon cynnes i nofio ynddo?
- Pa mor gynnes yw'r môr? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- A yw tymheredd y môr yr un fath ar draws y byd? Sut ydych chi'n gwybod?
- Ble mae’r môr gynhesaf?
- Ble mae’r môr oeraf? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
- Gwyliwch y clip fideo.
- Beth mae'r fideo yn ein ddangos i ni? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Beth mae'r gwahanol liwiau yn ei ddangos? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa liw yw'r môr o gwmpas Cymru yn y fideo? Pam ydych chi'n meddwl mae hynny?
Beth yw tymheredd môr diogel?
- Beth yw tymheredd dŵr diogel ar gyfer nofio môr? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Beth yw tymheredd pwll nofio? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Ydy'r môr o gwmpas Cymru'n gynhesach neu'n oerach na hynny? Sut ydych chi'n gwybod?
- Cydosodwch samplau dŵr ar 10oC, 20oC, 30oC a 40oC.
- Profwch nhw gyda'ch bys.
- Pa mor hawdd yw dweud y gwahaniaeth rhwng tymereddau y gwahanol samplau dŵr? Ydyn nhw'n teimlo'n sylweddol wahanol?
A fyddai unrhyw rai ohonynt yn llawer mwy peryglus i nofio ynddyn nhw na’r gweddil? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
- Gwnewch ymchwil i ddarganfod am dymheredd y môr a argymhellir ar gyfer nofio a beth allai ddigwydd pe byddech chi mewn dŵr a oedd yn oerach na hynny am unrhyw gyfnod o amser.
- Rhowch adborth ar eich canfyddiadau a'ch syniadau mewn cyflwyniad 30 eiliad.
Beth yw tymheredd y môr mewn gwahanol leoedd?
- Ewch i’r wefan: https://www.seatemperature.org/europe/united-kingdom/
- Edrychwch ar y map o Gymru a dod o hyd i'r lle agosaf i ble rydych chi'n byw.
- Beth yw tymheredd y môr cyfartalog yma y mis hwn? Sut allwch chi ddweud?
- Beth yw'r tymheredd môr uchaf a'r isaf ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn? Pryd mae'r rhain yn digwydd? Pam ydych chi'n meddwl eu bod yn digwydd ar yr adegau hyn?
- A yw tymheredd y môr yn ddiogel i nofio ynddo fan hyn? Sut ydych chi'n gwybod?
- Dewiswch rywle yn Ewrop yr hoffech chi ymweld ag ef a dod o hyd iddo ar y wefan.
- Beth yw tymheredd y môr cyfartalog y lle yma y mis hwn?
- Beth yw'r tymheredd môr uchaf a'r isaf ar gyfartaledd yn y lle hwn yn ystod y flwyddyn? Pryd mae'r rhain yn digwydd?
- A fyddai tymheredd y môr yn fwy diogel i nofio ynddo yn y lle yma nag yn y lle agosaf i ble rydych chi’n byw? Eglurwch eich syniadau.