Pam gall fod yn amser gwahanol o’r dydd pan fyddwn ni dramor?
Ewch ar y wefan: https://www.timeanddate.com/
Ewch i ‘Map Cylchfa Amser’ (‘Time Zone Map’) a chanfod gwahanol ddinasoedd ar y map.
Cliciwch ar ‘Cloc y Byd’ (‘The World clock’) a chanfod beth yw’r amser mewn gwahanol leoliadau yn fyd-eang.
Yna, archwiliwch weddill y wefan. Adroddwch eich canfyddiadau i weddill y dosbarth.
A allwn ni gwblhau'r ymchwil?
- Mae dosbarth wedi bod yn ymchwilio i amseroedd hedfan a hyd teithiau rhwng gwahanol gylchfaoedd (neu ranbarthau) amser.
- Cwblhewch eu hymchwil trwy ddarganfod beth yw'r wybodaeth sydd ar goll (?) ar gyfer pob taith awyren
- Sut fyddwch chi'n mynd i'r afael â'r broblem hon? Pam gwneud hynny?
- Beth fyddwch chi'n ei wneud gyntaf? Pam?
- Sut fyddwch chi'n gwybod a yw'ch atebion yn gywir? Sut allech chi wirio? Pam fyddai hyn yn gweithio?
- Pa wybodaeth goll (?) oedd yr hawsaf i’w gweithio allan? Pam mai’r wybodaeth goll hon oedd yr hawsaf?
- Pa wybodaeth ar goll oedd anoddaf i’w gweithio allan? Pam?