Beth sy’n gwneud gwyliau da?
Beth yw gwyliau? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
Beth sy'n gwneud gwyliau da? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Ysgrifennwch eich syniadau.
Gwnewch grwpiau gwahanol gan ddefnyddio'r sgwariau.
Llusgwch a gollyngwch eich geiriau i'r sgwariau i wneud eich grwpiau.
Rhowch deitl i bob grŵp.
Sut ydych chi wedi didoli'ch syniadau? Pam wnaethoch chi eu didoli fel hyn? Pa enw wnaethoch chi ei roi i bob grŵp? Pam?
Sut arall y byddech chi wedi gallu didoli'ch syniadau?
Beth fyddai'r gwyliau gorau?
Meddyliwch am yr hyn fyddai'n gwneud y gwyliau gorau erioed.
I ble fyddech chi'n mynd? Pam?
Pryd fyddech chi'n mynd? Pam?
Gyda phwy fyddech chi'n mynd? Pam?
Beth fyddech chi'n ei gymryd gyda chi? Pam?
Beth fyddech chi'n ei wneud ar y gwyliau? Pam fyddech chi'n gwneud y pethau hyn?
Ysgrifennwch a thynnwch lun eich syniadau.
Defnyddiwch eich syniadau i ddweud wrth eich dosbarth beth fyddai eich gwyliau gorau erioed.
Dim ond un funud sydd gennych i ddweud popeth wrthynt!