Beth ydyn ni’n ei wybod am olion traed deinosoriaid?
-
Tynnwch linell o gwmpas eich troed ar bapur sgwariau.
-
Pa mor hir yw eich troed? Pa mor llydan yw eich troed?
-
Beth yw arwynebedd eich troed?
-
Pwy sydd â'r ôl troed gyda'r arwynebedd mwyaf?
-
Faint yn fwy yw arwynebedd troed y person hwn?
-
Sut wnaethoch chi weithio hyn allan? Pam gwnaethoch ei weithio allan yn y ffordd hon?
-
Sut allech chi ddod o hyd i gyfaint eich ôl troed, yn eich barn chi? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Edrychwch ar ôl troed y deinosor deudroed hwn.
- Tua pha mor hir yw ôl troed y deinosor hwn? Sut wnaethoch chi weithio hynny allan? Pam?
- Beth ydy lled yr ôl troed? Sut ydych chi'n gwybod?
- Sut allech chi gyfrifo arwynebedd yr ôl troed?
- Amcangyfrifwch a chyfrifwch arwynebedd ôl troed y deinosor.