Beth yw robot?
Beth ydych chi'n ei wybod am robotiaid? Sut ydych chi'n gwybod y pethau hyn?
Meddyliwch am bob datganiad a’u trafod gyda phartner siarad.
Ydych chi'n meddwl bod y datganiad yn wir neu'n anwir? Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â’r datganiad?
Ydych chi'n meddwl bod y datganiad yn rhannol wir neu'n rhannol ffug?
Llusgwch a gollyngwch bob datganiad ar y si-so blaenoriaeth i ddangos eich syniadau.
Beth mae pobl eraill yn ei feddwl?
Cofnodwch sgoriau pob aelod o'r dosbarth.
Cyfrifwch sgôr terfynol ar gyfer pob datganiad.
Sut fyddwch chi'n gwneud hyn? Pam ei gyfrifo fel hyn?
A yw unrhyw rai o'r sgoriau terfynol yn negyddol? Pam ydych chi'n meddwl mae hynny?
Beth mae sgôr negyddol yn ei olygu? Sut ydych chi'n gwybod?
Tynnwch lun siart i ddangos canlyniadau'r trafodaethau a gawsoch yn y dosbarth.