Sut allwn ni ddefnyddio robotiaid gartref?
Pa robotiaid y gellir eu defnyddio gartref? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Pa robotiaid sydd gennych gartref? Sut ydych chi'n gwybod eu bod yn robotiaid?
Cliciwch ar y botwm a gwyliwch y clip fideo.
Sut mae'r sugnwr llwch robot yn gweithio?
Pa nodweddion sydd iddo?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
A yw sugnwyr llwch robotig yn cymryd drosodd?
Edrychwch ar y data am sugnwyr llwch robotig uchod.
Sut mae'r data yn cael ei ddangos? Sut ydych chi'n gwybod?
Beth mae'n ei ddweud wrthym? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth mae'r niferoedd yn ei awgrymu? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth fydd yn digwydd yn y dyfodol? Sut ydych chi'n gwybod?
Pa fath o sugnwr llwch robotig fyddech chi'n ei ddyfeisio i'ch helpu gartref neu yn yr ysgol?
Cynlluniwch a dyluniwch sugnwr llwch robotig newydd.
Defnyddiwch frasluniau anodedig i ddangos eich dyluniad.
Sut allech chi ddangos y robot gan ddefnyddio lluniadau wrth raddfa?
Sut fydd yn edrych? Pam fydd yn edrych fel hyn?
Sut y bydd yn defnyddio synwyryddion? Pam eu defnyddio fel hynny?
Pa wybodaeth fyddai angen i’w raglennu? Pam fyddai angen yr wybodaeth hon?
Sut fyddai yn darganfod ei ffordd o gwmpas y tŷ? Sut fyddai'n gwybod pryd i stopio neu droi corneli?
Pa nodweddion arbennig fyddai ganddo? Pam?
Sut fyddwch chi'n cynhyrchu dalen ddata ar ei gyfer?
Pa mor drwm fydd y llyncwr llwch? Beth fydd ei hyd a’i led? Pam?
Sut fydd yn cael ei bweru? Pam?