Pobl neu beiriannau - pwy fydd yn ennill?
Beth ydych chi'n meddwl yw'r prif swyddi y mae robotiaid yn eu gwneud? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Cliciwch ar y botwm ac edrychwch ar y tabl.
Pa mor dda oedd eich dyfalu? Beth wnaeth eich synnu? Pam?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Pa swyddi fydd robotiaid yn eu cymryd yn y dyfodol?
Pa swyddi y gellid defnyddio robotiaid i’w gwneud yn y dyfodol? Athrawon? Meddygon? Heddlu?
Beth am robot wedi ei raglennu i beidio methu cic cosb mewn rygbi? Beth ydych chi'n ei feddwl? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Cliciwch ar y botwm a gwyliwch y clip fideo. Gallwch fynd i ‘gosodiadau’ a dewis 'isdeitlau Cymraeg'.
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau am y fideo.
Gwnewch ymchwil i ddod o hyd i wybodaeth ynghylch pam y bydd robotiaid yn cael eu defnyddio mewn rhai swyddi yn y dyfodol.
Pam mae robotiaid yn disodli pobl? Pwy sy'n penderfynu? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth yw manteision ac anfanteision defnyddio robotiaid i wneud swyddi y mae pobl yn eu gwneud?
Beth yw ein barn ni i gyd?
Gwnewch arolwg dosbarth i ddarganfod pa swyddi y mae pawb yn meddwl y bydd robotiaid yn eu cymryd yn y dyfodol.
Sut fyddwch chi'n casglu barn eich dosbarth? Pam ei chasglu fel hyn?
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi? Beth yw'r ffordd orau o ddod o hyd i’r wybodaeth hon? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Sut allech chi ddefnyddio ‘pleidlais ddot’? Sut ydych chi'n gwybod?
Sut fyddwch chi'n arddangos eich canlyniadau? Pam eu harddangos fel hyn?
Cliciwch ar y graff.
Beth mae’r graff yn ei ddangos? Sut ydych chi'n gwybod?
Sut mae'r rhagfynegiad hwn yn cymharu â'r data a gasglwyd gennych? Pam ydych chi'n meddwl hynny?