Pobl neu beiriannau, pwy fydd yn ennill?
Faint o bobl sydd ar ein planed? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
Faint o robotiaid sydd ar ein planed? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Pwy sy'n fwy deallus - pobl neu robotiaid? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Pryd fydd robotiaid yn cymryd drosodd?
Pa wybodaeth y mae'r inffograffeg yn ei rhoi i ni? Sut ydych chi'n gwybod?
Edrychwch ar y tri siart cylch gwahanol.
Beth yw cyfanswm y swyddi modurol, gweithgynhyrchu a gwasanaeth bwyd yn yr UDA, yn seiliedig ar y ffigurau hyn? Sut wnaethoch chi weithio hynny allan? Pam wnaethoch chi ei wneud fel hyn?
Edrychwch ar y graff llinell.
Pa stori mae'n ei ddweud? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth mae'r llinellau coch a glas yn ei ddangos? Sut ydych chi'n gwybod?
Yn ôl y graff, ym mha flwyddyn fydd yr un nifer o bobl a robotiaid yn gweithio? A yw hyn yn yr UDA? Sut ydych chi'n gwybod?
Pa wybodaeth sydd ar goll o'r graff? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth ydych chi'n meddwl fydd yn digwydd i'r llinellau coch a glas yn y 100 mlynedd ar ôl 2040? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth yw manteision ac anfanteision mwy o robotiaid yn gweithio na phobl?