Beth yw’r dyfodol i ddronau?
Ar gyfer beth fydd dronau yn cael eu defnyddio yn y dyfodol? Sut ydych chi'n gwybod?
A fydd mwy o ddronau neu bobl yn gweithio? Pam ydych chi'n meddwl hynny? Sut allai hyn effeithio arnoch chi a'ch teulu yn y dyfodol? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Rhannwch eich syniadau gyda'r dosbarth.
Beth am y dyfodol?
Edrychwch ar y graff.
Beth mae’r graff yn ei ddweud wrthym? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth sy'n cael ei fesur ar echelin X ac echelin Y? Sut ydych chi'n gwybod? Defnyddiwch yr wybodaeth yn y graff i ragfynegi beth allai ddigwydd i nifer y dronau a'r defnydd ohonyn nhw yn y dyfodol.
Pa fath o ddrôn allwn i ei ddyfeisio?
Gwnewch waith ymchwil i ddod o hyd i wybodaeth am ddronau.
Ystyriwch: Pam maen nhw'n cael eu galw'n ddronau?
Pryd y defnyddiwyd y drôn cyntaf? I beth? A all dronau fod yn beryglus i bobl? Sut?
Beth yw'r rheolau ar gyfer hedfan dronau personol? Ydych chi'n cytuno â'r rheolau hyn? Pam?
Sut mae dronau’n gweithio? Sut maent yn cael eu rheoli? Gan bwy neu beth?
Sut mae drôn yn gwybod ble mae'n mynd?
Defnyddiwch yr wybodaeth hon i ddyfeisio drôn a fydd yn helpu'r blaned yn y dyfodol.
Sut fydd eich drôn yn unigryw? Pam mae hyn yn ei wneud yn unigryw?
Defnyddiwch eich gwybodaeth am wyddoniaeth a’ch gwaith ymchwil i'ch helpu i ddatblygu syniadau.
Gwnewch ymchwil marchnad yn yr ysgol i weld beth mae pobl yn ei feddwl am eich syniadau.
Datblygwch gynllun i ddangos sut y gallai edrych, sut y byddai’n gweithio a pha gydrannau sydd ganddo.
Defnyddiwch eich dealltwriaeth o wyddoniaeth i esbonio sut y byddai'n gweithio.