Pa mor ddatblygedig yw robotiaid?
Pa mor ddatblygedig yw robotiaid, yn eich barn chi? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth allant ei wneud? Sut ydych ch'n gwybod?
Cliciwch ar y botwm a gwyliwch y clip fideo.
Gallwch fynd i ‘gosodiadau’ a dewis 'isdeitlau Cymraeg'.
Beth sy'n digwydd yn y clip fideo?
Beth wnaeth eich synnu? Pam?
Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Beth allwn ni ei ddarganfod am robotiaid datblygedig?
Defnyddiwch grid CwAMFf i gofnodi'ch syniadau ynghylch pa mor ddatblygedig yw robotiaid.
Beth ydych chi'n ei wybod am robotiaid datblygedig? Sut ydych chi'n gwybod y pethau hyn?
Beth arall ydych chi am ei ddarganfod? Pam?
Sut fyddwch chi'n dod o hyd i atebion i'ch cwestiynau? Pam defnyddio’r ffordd hon?
Sut fyddwch chi'n cadw cofnod o'r wybodaeth a ddarganfyddwch? Pam cadw cofnod fel hyn?
Gwneud ymchwil i ddod o hyd i ddata a gwybodaeth am ddatblygiadau mewn technoleg robot.
Ble fyddwch chi'n edrych? Pam?
Beth ydych chi'n disgwyl ei ddarganfod? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Chwiliwch am ddata a gwybodaeth am ASIMO.
Beth ydych chi wedi'i ddarganfod?
Pa ddatblygiadau diweddar fu’n helpu ASIMO i gerdded, rhedeg a dringo?
Sut arall y dechreuir defnyddio'r dechnoleg hon?
Pa ffynonellau a ddarparodd y mwyaf o’r wybodaeth a’r data? Pam ydych chi'n meddwl mae hynny?
Crëwch infograffig i arddangos eich canfyddiadau.
Sut y gallem ni ddefnyddio’r dechnoleg robot hon i helpu pobl?
Defnyddiwch eich gwybodaeth am wyddoniaeth a’ch ymchwil i lunio map meddwl o’ch syniadau am ddyfeisiadau a allai ddefnyddio technoleg robot datblygiedig.
Dewiswch un o'ch syniadau a datblygu cynllun manwl i ddangos sut y gallai edrych, gweithio a chael ei adeiladu.
Cofiwch gynnwys:
- diagramau wrth raddfa, lle bo modd;
- data a mesuriadau
- eich dealltwriaeth o wyddoniaeth i esbonio sut y byddai'n gweithio.