Pa mor sefydlog yw adeiladau tal?
- Pam fod y rhan fwyaf o adeiladau’n sefydlog?
- Sut mae adeiladau’n gallu aros yn sefydlog mewn gwyntoedd cryf iawn? Sut ydych chi'n gwybod hyn?
Gwyliwch y clip fideo.
- Sut y cafodd yr adeilad ei ddymchwel? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa mor hawdd oedd iddo syrthio? A oedd hyn yn syndod i chi? Pam?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Pa mor sefydlog yw'r adeiladau talaf yn y byd?
Gwnewch waith ymchwil ar yr adeiladau talaf yn y byd.
Ystyriwch:
- Pa mor dal ydyn nhw?
- Sut ydych chi'n meddwl maen nhw’n cael eu mesur? Gan bwy?
- Pa gamau a gymerir i sicrhau eu bod yn sefydlog ac yn ddiogel?
- A ydynt yn cael eu profi? Sut? Pam y byddai angen gwneud hyn?
- Adroddwch ar eich canfyddiadau i'ch dosbarth mewn cyflwyniad un munud.
- Pa ddata allwch chi ei gynnwys? Sut fyddwch yn dangos y data hwn?
- Sut allech chi ddangos uchder yr adeiladau mewn cymhariaeth i'w gilydd? Pa ffordd o wneud hyn fyddai orau? Pam?
- Sut allech chi ddangos uchderau yr adeiladau hyn nesaf i adeilad y mae’r plant yn eich dosbarth yn gyfarwydd ag ef? Pam y byddai hyn yn ffordd dda o wneud hynny?