Sut allwn brofi sefydlogrwydd tyrau?
- Pa mor hawdd fyddai hi i chwythu’r adeiladau hyn drosodd? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Chwythwch yr adeilad drosodd. Ar beth ydych chi'n sylwi?
- Beth sy'n digwydd? Pam ydych chi'n meddwl bod hyn yn digwydd?
- Rhowch gynnig ar yr adeiladau eraill.
- A fydd eu chwythu nhw drosodd yn haws neu'n anoddach? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau.
Sut allwn adeiladu a phrofi tyrau?
- Defnyddiwch bapur sgrap neu gerdyn i wneud tyrau y gellir eu profi.
Ystyriwch: Sut allech chi brofi tyrau sydd â'r un arwynebedd i’w sylfaen ond sydd o wahanol uchder?
- Sut allech chi brofi tyrau sydd o'r un uchder ond sydd ag arwynebedd eu sylfaen yn wahanol?
- Sut allech chi brofi tyrau sydd â siâp gwahanol i'w gilydd?
- Pa newidynnau y byddwch yn eu mesur a’u newid ym mhob achos? Pam?
- Pa newidynnau y bydd angen i chi eu rheoli? Pam? Sut allwch chi eu rheoli?
- Beth fyddwch chi'n ei ddefnyddio i chwythu'r tyrau drosodd? Pam defnyddio hwn? A yw hyn yn brawf teg? Pam?
- Beth fyddwch chi'n gallu ei fesur? Sut fyddwch chi'n gwneud hyn? Pam ei wneud fel yna?
- Sut fyddwch yn cadw cofnod o'r hyn sy'n digwydd? Pam cadw cofnod fel hyn?
- Pa fath o ganlyniadau y byddech yn eu disgwyl?
- Sut fyddech chi’n dangos y canlyniadau hyn? Pam?
- Fyddech chi'n defnyddio graff neu siart? Pam?