Sut mae'r sylfeini yn gwneud gwahaniaeth?
- Rhannwch a thrafodwch eich syniadau am y ffotograff. Pam yr adeiladir sylfeini? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Pryd mae sylfeini’n cael eu hadeiladu? Pam? Sut ydych chi'n gwybod?
- Sut y cânt eu hadeiladu? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Beth arall ydych chi'n ei wybod am sylfeini adeiladau? Sut ydych chi'n gwybod y pethau hyn?
Sut allwn ni brofi sylfeini?
Cynlluniwch a chynnal ymchwiliad i ddarganfod sut mae dyfnder sylfaen tŵr yn effeithio ar y grym sydd ei angen i’w daro i lawr.
Ystyriwch:
- Pa siâp fydd eich tŵr? Pam?
- Ym mha ddefnydd y byddwch chi'n claddu’r rhan isaf ohono? Pam?
- Sut fyddwch yn mesur faint o’r tŵr sydd o dan yr wyneb? Pam ei fesur fel hyn?
- Beth fyddwch chi'n ei fesur wrth wneud eich ymchwiliad? Pam?
- Beth fyddwch chi'n ei newid wrth wneud eich ymchwiliad? Pam?
- Sut fyddwch yn ceisio taro’r tyrau drosodd? Pam?
- Sut fyddwch chi'n gwybod os ydych wedi taro'r tŵr gyda'r un grym bob tro?
- Sut fyddwch chi'n gwneud yn siŵr bod hyn yn brawf teg? Pam y bydd hyn yn ei wneud yn deg?
- Sut fyddwch yn cofnodi a chyflwyno eich canlyniadau? Pam defnyddio’r ffordd hon?