Beth sy'n digwydd pan mae hadau'n egino?
- Edrychwch ar y llun o hedyn.
- Beth ydych chi’n ei feddwl sydd y tu mewn i'r hedyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Tynnwch lun i ddangos eich syniadau.
- Sut allech chi helpu'r hedyn i egino? Pam ydych chi'n meddwl y byddai hynny yn ei helpu?
- Beth fydd yn digwydd i’r hedyn pan fydd yn dechrau egino? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Tynnwch frasluniau wedi eu hanodi i ddangos beth fydd yn digwydd, yn eich barn chi.
Mae'r clip fideo yn dangos hedyn yn egino.
- Beth ydych chi'n feddwl y byddwch yn ei weld? Pam?
Cliciwch ar y botwm a gwyliwch y clip fideo.
- Ai dyma oeddech chi’n disgwyl ei weld? Pam?
- Pa mor dda oedd eich rhagfynegiadau?
- Rhanwch a thrafodwch eich syniadau.
Sut allwch chi egino hedyn ffeuen ein hun?
- Casglwch y pethau sydd angen i chi i egino’r hedyn ffeuen.
- Beth ydych chi'n feddwl sydd angen i chi ei wneud gyda'r pethau hyn? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut fyddwch yn cadw cofnod o'r hyn sy'n digwydd? Pam y byddwch yn cadw cofnod fel hyn?
Meddyliwch am: Sut allech chi gofnodi sut mae'n edrych bob dydd? Pa ffordd sydd orau? Pam?
- Sut fyddwch yn gwybod pa rannau o'r hedyn sy’n tyfu?
- Sut allech chi fesur tyfiant y rhannau hyn? Gyda beth y byddech yn eu mesur?
- Sut allech chi ddangos y mesuriadau hyn ar ffurf graff? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa newidyn fyddech chi'n ei ddefnyddio ar gyfer echelin-X?
- Pa newidyn fyddech chi'n ei ddefnyddio ar gyfer echelin-Y?
- Pam fyddech chi'n defnyddio'r newidynnau hyn?
- Sut fydd y graff yn edrych? Pam ydych chi'n meddwl hynny?