Beth ydym ni'n ei wybod am wreiddiau?
- Beth yw swyddogaeth gwreiddiau planhigyn? Sut ydych chi'n gwybod hynny?
- Pa mor bell y mae gwreiddiau coed yn lledaenu, yn eich barn chi?
- A yw dyfnder y gwreiddiau yn ymwneud â maint cyffredinol y goeden mewn rhyw ffordd? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- A yw lledaeniad y gwreiddiau yn cyfateb i ryw agwedd o’r goeden? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Beth, yn eich barn chi, yw'r berthynas rhwng dimensiynau’r goeden uwchlaw'r ddaear a dimensiynau'r gwreiddiau? Pam ydych chi'n meddwl hyn?
- Pa dystiolaeth fyddai ei hangen arnoch chi i ddangos hyn? Sut allech chi gasglu’r dystiolaeth hon?
Sut y gallwn ni archwilio’r gwaith ymchwil?
- Trafodwch y syniadau ymchwil.
- Beth ydych chi'n ei ddeall am bob un?
- Beth nad ydych chi'n ei ddeall?
- Sut fyddech chi’n gallu darganfod gwybodaeth am yr hyn nad ydych chi’n siŵr ohono?
- Sut allwch chi archwilio pob syniad ymchwil?
- Beth fydd angen i chi ei wneud? Sut allech chi wneud hyn?
- Beth yw coron coeden? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Sut fyddwch yn darganfod uchder coeden?
- Beth fyddwch chi'n ei fesur? Sut ydych chi'n gwybod?
- Beth fyddwch chi'n ei amcangyfrif? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Gwnewch eich gwaith ymchwil.
- Beth wnaethoch chi ei ddarganfod?
- Pa mor debyg yw'r canlyniadau ar gyfer y gwahanol syniadau ymchwil? Pam ydych chi'n meddwl mae hyn?