Beth sydd o dan y ddaear?
- Edrychwch ar bob un o'r ffotograffau.
- Beth ydych chi’n feddwl sydd o dan y ddaear ym mhob un o'r rhain? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch eich syniadau â'ch partner siarad.
- Dewiswch ffotograff a thynnwch lun o'r hyn yr ydych yn meddwl y byddech yn dod o hyd iddo pe byddech yn cloddio i lawr o dan yr hyn sydd yn y ffotograff.
- Sut ydych chi'n gwybod beth fyddech chi'n dod o hyd iddo?
- Beth mae eich teulu yn ei feddwl?
- Gofynnwch i rai o'ch teulu dynnu llun o'r hyn maen nhw’n ei feddwl sydd o dan y ddaear yn y ffotograffau.
- Ydyn nhw'n credu yr un fath â chi?
- Sut mae eu syniadau nhw’n wahanol i’ch rhai chi?
- Sut mae eu syniadau nhw’n debyg i’ch rhai chi?