Ble rydym ni'n byw?
Sut y gallwn ni osod cartrefi mewn grwpiau?
- Gwnewch grwpiau gwahanol gan ddefnyddio'r sgwariau.
- Llusgwch a gollyngwch y lluniau i mewn i'r sgwariau i wneud eich grwpiau.
- Rhowch deitl i bob grŵp.
- Sut ydych chi wedi didoli’r lluniau? Pam wnaethoch chi eu didoli yn y ffordd honno?
- Pa deitl wnaethoch chi ei roi i bob grŵp? Pam?
- Sut arall allech chi ddidoli’r lluniau?
- Pa un o'r rhain fyddai'r mwyaf tebyg o gael ei chwythu i lawr? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Pa fath o gartrefi ydym ni’n byw ynddyn nhw?
- Darganfyddwch pa fath o gartrefi y mae pawb yn eich dosbarth yn byw ynddyn nhw.
- Sut fyddwch yn darganfod hyn? Pam y byddwch yn darganfod fel hyn?
- Sut fyddwch chi'n casglu'r wybodaeth gan bob plentyn? Sut y byddwch yn cadw cofnod o'r wybodaeth hon?
- Sut fyddwch yn gweithio allan faint o blant sy’n byw ym mhob un math o gartref?
- Beth fyddwch chi'n ei lunio i ddangos eich canlyniadau?