Sut allwn ni chwythu tŷ i lawr?
- Beth ydych chi'n ei wybod am stori y tri mochyn bach? Sut ydych chi'n gwybod am hyn?
- Cliciwch ar y botwm a gwrando ar stori'r tri mochyn bach.
- Pa dŷ oedd yr hawsaf i’w chwythu i lawr? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Pa dŷ oedd yr anoddaf i’w chwythu i lawr? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch eich syniadau â'ch partner siarad.
Pa mor hawdd fyddai hi i chwythu tŷ i lawr?
Edrychwch am yr holl wybodaeth y gallwch ddod o hyd iddi.
Gwnewch nodiadau a lluniau wrth i chi ddarganfod pethau.
Dechreuwch drwy edrych ar yr adeilad rydych chi’n byw ynddo.
A ellid ei chwythu i lawr? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
Beth mae eich ffrindiau a'ch teulu yn ei feddwl?
Gwnewch yn siŵr eu bod yn egluro eu syniadau!
Beth arall allwch chi ei ddarganfod? Sut fyddwch yn darganfod y pethau hyn?
Edrychwch ar dai eraill.
Dywedwch wrth y plant yn eich dosbarth am yr hyn yr ydych wedi ei ddarganfod wrth wneud eich gwaith ymchwil.