Sut allwn ni chwythu tyrau i lawr?
- Cliciwch ar y botwm ‘gwynt’ i weld beth sy’n digwydd.
- Pa mor hawdd fyddai hi i chwythu’r adeiladau hyn drosodd? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Chwythwch yr adeilad cyntaf ar y chwith drosodd. Ar beth ydych chi'n sylwi?
- Beth sy'n digwydd? Pam ydych chi'n meddwl bod hyn yn digwydd?
- Rhowch gynnig ar yr adeiladau eraill. A fydd eu chwythu nhw drosodd yn haws neu'n anoddach? Pam ydych chi'n meddwl hynny?
- Rhannwch eich syniadau â'ch partner siarad.
Sut allwn ni adeiladu a phrofi tyrau?
- Defnyddiwch bapur sgrap neu gerdyn i wneud tyrau gwahanol faint sydd â siâp silindr.
- Profwch y tyrau drwy weld a allwch chi eu chwythu nhw drosodd.
- Beth fyddwch chi'n ei ddefnyddio i drio chwythu'r tyrau drosodd? Pam defnyddio hwn?
- Beth fyddwch chi'n gallu ei fesur? Sut fyddwch chi'n ei fesur? Pam?
- Sut fyddwch yn cadw cofnod o'r hyn sy'n digwydd? Pam cadw cofnod fel hyn?
- Beth mae eich canlyniadau'n ei ddangos i chi? Pam ydych chi'n meddwl hynny?